Mae partneriaeth Cwlwm (Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Coram PACEY Cymru, Early Years Wales, Mudiad Meithrin, National Day Nurseries Association (NDNA Cymru), Canolfan y Dechnoleg Amgen a Coed Lleol yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi derbyn cyllid gan gronfa Meithrin Natur  y Loteri Genedlaethol. Hwb sylweddol a fydd yn cefnogi ein gwaith parhaus i gefnogi ymarferwyr a theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar drwy gysylltu pobl â byd natur a gwella’r amgylchedd lleol. 

Bydd y cyllid yn galluogi’r holl bartneriaid i gychwyn ar ehangu gweithgareddau a chyflwyno prosiectau effeithiol sy’n annog ymgysylltiad cymunedol, a meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o’r byd naturiol o’r dyddiau cynharaf posib. Trwy’r gefnogaeth hon, bydd y partneriaid yn ystyried pa gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd ac ymarferwyr i gael mynediad at natur yn ystod y blynyddoedd cynnar (0-5 oed). 

Mae cronfa Meithrin Natur, rhan o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wedi’i hymroddi i helpu cymunedau ledled Cymru i weithredu dros natur ac adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy. 

Meddai Dr Catrin Mair Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin a Chadeirydd Cwlwm:  

“Rydym wrth ein bodd yn derbyn y cyllid hwn gan Gronfa Meithrin Natur. Mae’n cydnabod pwysigrwydd ein gwaith a bydd yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ymwneud y plant lleiaf gyda’r byd natur yn eu cymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn nawr ehangu ein hymdrechion a chreu effaith gadarnhaol barhaol i blant bach Cymru.” 

Daw’r cyllid hwn ar adeg hollbwysig, wrth i gymunedau geisio ailgysylltu â natur a chymryd camau ystyrlon i amddiffyn amgylcheddau lleol. Os yn llwyddiannus, bydd y prosiect llawn yn cynnig cyfleoedd i blant 0 – 5 oed, eu teuluoedd a’u gofalwyr i gymryd rhan, dysgu sgiliau newydd, a chyfrannu at lesiant amgylcheddol lleol. 

Hoffai Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Coram PACEY Cymru, Early Years Wales, Mudiad Meithrin, National Day Nurseries Association (NDNA Cymru), Canolfan y Dechnoleg Amgen a Coed Lleol estyn eu diolch diffuant i’r Loteri Genedlaethol a’i holl chwaraewyr am wneud y gwaith hwn yn bosibl.