Cydlynydd Sefydlu a Symud y De-Orllewin a’r Canolbarth
Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Ceredigion, Penybont ar Ogwr, Powys, Sir Benfro, Sir GârGweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Heather Davies-Rollinson - Rheolwr Talaith y De-Orllewin a'r Canolbarth
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: heather@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM22 – MM25 £30,350 - £33,530 pro rata y flwyddyn. (Polisi Mudiad Meithrin yw cynnig y swydd ar ricyn cyntaf y band MM).
Oriau: 30 awr yr wythnos. Gall cynlluniau amrywiol yn y Mudiad arwain at gynyddu oriau gwaith os y dymunwch.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 16/06/2026