Cynorthwy-ydd Rhan Amser Meithrinfa Camau Bach
CeredigionGweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Cyfeiriad: Meithrinfa Camau Bach, Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Catrin Jones-Williams - Rheolwr Meithrinfa Camau Bach
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: catrin.williams@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MCC 2 £25,174.50 pro rata y flwyddyn (£12.91 yr awr) Cynorthwyydd - Lefel 2 MCC 3 £25,564.50 pro rata y flwyddyn (£13.11 yr awr) Cynorthwyydd - Lefel 3
Oriau: 30 awr yr wythnos (Llun i Gwener) gyda 30 munud o doriad i ginio. Cytundeb: I gychwyn cyn gynted â phosib hyd 31/03/2027
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 10/06/2026