Lleoliad: CAPEL TONYFELIN BEDWAS ROAD CAERFFILI CF83 1PA
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Oriau hyblyg yn dibynnu ar anghenion y tîm ac yn gallu trafod gyda'r cyflogwr yn ystod yr cyfweliad.
Cytundeb un flwyddyn yn dechrau mis Medi.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Bydd eisiau cymryd rhan mewn cyrsiau Cymorth Cyntaf, Diogelu Plant a Hylendid Bwyd.
Cyflog: cyflog cenedlaethol
Oriau: 20 awr yr wythnos gyda'r posibilrwydd o gynyddu oriau
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu:tonyfelintrustees@gmail.com
Dyddiad Cau: 15/07/2026
Dyddiad Cyfweliad: 22/07/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-12.30 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-12.30 | |
| Dydd Mercher | 9.00-12.30 | |
| Dydd Iau | 9.00-12.30 | |
| Dydd Gwener | 9.00-12.30 |