Yn ôl i'r rhestr swyddi

Derbynydd / Swyddog Gweinyddol Meithrinfa Camau Bach

Ceredigion
Gwybodaeth Gyffredinol

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.

Cyfeiriad: Meithrinfa Camau Bach, Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD.

 

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Catrin Jones-Williams, Rheolwr Meithrinfa Camau Bach 

Rhif Ffôn: 01970 639639

E-bost: catrin.williams@meithrin.cymru 

 

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru

 

Manylion y Swydd

Cyflog: £12.71 yr awr

Oriau: 9:00- 13.00, 3 diwrnod yr wythnos, 12 awr yr wythnos. Dydd Mawrth – Dydd Iau. Bydd yr oriau yn cynyddu o Hydref 2026 ymlaen.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.