Mae Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n gosod cyfeiriad clir, uchelgeisiol a chadarnhaol ar gyfer dyfodol rheoli a llywodraethu Cylchoedd Meithrin ledled Cymru.  

Wedi’i baratoi yn dilyn Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar fodelau amgen i’w hystyried gyda’r bwriad o dynnu’r pwysau rheoli oddi ar wirfoddolwyr, mae’r adroddiad yn adeiladu ar gryfderau’r model gwirfoddol presennol tra’n amlinellu cyfleoedd i’w gryfhau, ei ddiweddaru a’i wneud yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.   

Mae dros 300 o Gylchoedd Meithrin yn cael eu rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o wirfoddolwyr ledled Cymru – model cymunedol sydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y Mudiad ers ei sefydlu. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod nifer fawr o Bwyllgorau a chylchoedd yn ffynnu, gan ddarparu gofal ac addysg o ansawdd uchel sy’n meithrin y Gymraeg ymhlith plant ifanc, ond bod angen cymorth pellach ar rai Pwyllgorau.   

Dywedodd Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:  

“Mae ein gwirfoddolwyr ar Bwyllgorau Rheoli yn chwarae rhan hollbwysig yn llwyddiant y Cylchoedd Meithrin ar lawr gwlad. Wrth i’r maes gofal plant broffesiynoli ac ehangu, mae’n rhaid i ni fel Mudiad hefyd foderneiddio i wynebu’r heriau cynyddol ar draws y sector gofal plant.  

Mae mynd i’r afael ar y pwysau cynyddol mae rhai gwirfoddolwyr a phwyllgorau yn profi yn parhau yn flaenoriaeth wrth inni baratoi’r Mudiad a’n haelodau at ddarparu gofal plant sy’n ymateb i anghenion gofal plant rhieni a gofalwyr, nawr ac yn y dyfodol.”  

Yn dilyn dadansoddiad o holiadur i aelodau o Bwyllgorau a rannwyd yn gyhoeddus fis Mai eleni, daeth 3 prif bwynt i’r amlwg sef fod:  

  • 66% o aelodau Pwyllgor eisiau lleihau’r nifer o oriau mae nhw’n gwirfoddoli  
  • 49.1% (bron i hanner) aelodau Pwyllgor yn dymuno cael cefnogaeth datblygu busnes, fel gwiriad iechyd busnes gan Gydlynydd Cefnogi Cylchoedd Mudiad Meithrin i gefnogi’r gwaith  
  • 40.4%, yn dymuno bod yn rhan o rwydwaith sirol, gan ddod ag arbenigedd a phrofiad at ei gilydd ar raddfa fwy er mwyn cefnogi a chynnal Cylchoedd Meithrin 
     

Wrth i’r sector gofal plant dyfu a datblygu, mae’r adroddiad yn amlinellu’n glir fod angen cryfhau’r gefnogaeth a moderneiddio’r dull mae’r Pwyllgorau yn gweithredu trwy:  

  • Wella’r gefnogaeth i wirfoddolwyr  
  • Cryfhau llywodraethiant  
  • Sicrhau mwy o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd  

 

Mae’r adroddiad yn archwilio tri phrif opsiwn ar gyfer llywodraethiant yn y dyfodol a fyddai’n cynnig gwahanol ffyrdd o wella cynaliadwyedd, lleihau pwysau ar wirfoddolwyr, a sicrhau safonau uchel ar draws y sector sef:  

  • Parhau gyda’r model Pwyllgorau Rheoli Gwirfoddol, ond gyda chefnogaeth ychwanegol  
  • Mabwysiadu Byrddau Llywodraethu, gan gwahaniad clir rhwng llywodraethu a reolaeth ddydd-i-ddydd  
  • Symud tuag at reolaeth ganolog gan Mudiad Meithrin  

 

Fel cam cyntaf, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd Mudiad Meithrin yn cynyddu’r capasiti ar lawr gwlad trwy gyflwyno pecyn cymorth estynedig o fis Medi 2026 sy’n buddsoddi mewn mwy o gefnogaeth i wirfoddolwyr gan gynnwys:  

  • Llunio pecyn cymorth estynedig a chynyddu’r gefnogaeth lawr gwlad i Gylchoedd Meithrin fel rhan o becyn aelodaeth Mudiad Meithrin 2026-27  
  • Cynnal arolwg cenedlaethol er mwyn deall maint a natur yr  heriau i bwyllgorau  
  • Cynnal asesiad dichonoldeb ar gyfer modelau llywodraethiant amgen, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau tymor hir yn seiliedig ar dystiolaeth   

 

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan 

“Yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth, rydyn ni wedi dechrau ar y gwaith o wireddu ein hymrwymiad i gyflwyno’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw ran o’r DU. Bydd y cynnig hwn yn darparu 20 awr yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed. 

“Mae’r Gymraeg wrth galon y cynnig hwn, ac mae gofal plant cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o’n huchelgais i gyrraedd miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae taith iaith plant yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar, ac felly mae sicrhau mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel yn hanfodol. 

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ehangu’r ddarpariaeth ledled Cymru ac i adeiladu’r capasiti sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Rwy’n falch o gefnogi Mudiad Meithrin wrth iddo barhau i ddatblygu a moderneiddio, gan gryfhau ei allu i gefnogi a thyfu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cylchoedd Meithrin yn parhau wrth galon ein cymunedau, gan ddarparu profiadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf i blant a’u teuluoedd.” 

Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cadeirydd Mudiad Meithrin:  

Mae Mudiad Meithrin yn gwerthfawrogi’n fawr gyfraniad aruthrol ein gwirfoddolwyr ar bwyllgorau rheoli’r cylchoedd, gan gydnabod mai nhw yw asgwrn cefn y Cylchoedd Meithrin. Mae maes gofal plant yn sector sydd wedi datblygu’n aruthrol dros y ddegawd ddiwethaf, ac yn faes sy’n cael ei rheoleiddio’n llym a hynny am resymau da.   

Mae’r adroddiad hwn yn gyfle pwysig i gryfhau ein cefnogaeth i wirfoddolwyr a moderneiddio ein dulliau, fel y gallwn sicrhau dyfodol cryf a chynaliadwy i’n Cylchoedd Meithrin.”   

Bydd gwaith pellach yn cynnwys arolwg cenedlaethol ac astudiaethau dichonoldeb er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau tymor hir yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac ar anghenion y sector.  

Ychwanegodd Dr Catrin Edwards 

“Nod y gwaith pwysig yma yw sicrhau bod Cylchoedd Meithrin yn parhau i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Gymraeg. Mae’r newid hwn yn hanfodol i sicrhau bod ein  cylchoedd yn parhau’n gynaliadwy ac yn gallu cyflawni’r weledigaeth o gynnig profiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd a rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg.”