Yn ôl i'r rhestr swyddi

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg (Dros gyfnod mamolaeth)

Bro Morgannwg
Gwybodaeth Gyffredinol

Ymunwch â Mudiad Meithrin!

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin ym Mro Morgannwg.  Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.  Bydd disgwyl i’r person fod yn gynghorydd  cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau a’u pwyllgorau . Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith yr holl ddarpariaethau yn yr ardal i gynnal a chodi ansawdd a safon.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Ann Angell / Rheolwr Talaith y De Ddwyrain: 07967017385 / ann.angell@meithrin.cymru

neu

Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain: 07494491884 / ceri.preston@meithrin.cymru

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Dychwelwch y ffurflenni yma: adnoddaudynol@meithrin.cymru

Manylion y Swydd

Cyflog: MM22 – MM25, £30,350 - £33,530 pro rata. Gwir gyflog ar sail gweithio 17 awr yr wythnos £13,759 - £15,200

Oriau: 17 awr yr wythnos

Manylion cymwysterau

Gweler swydd ddisgrifiad

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 20/08/2026

Dyddiad Cyfweliad: 01/09/2026