Lleoliad: FESTRI CAPEL BETHEL , MAES Y DERI , RHIWBEINA , CAERDYDD
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch.
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn lleoliad cynnes, croesawgar a phrysur lle mae plant yn dysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig, gofalgar a chreadigol i ymuno â’n tîm a helpu i greu profiadau dysgu hapus ac ystyrlon i’n plant. Os ydych chi’n angerddol am y Gymraeg, datblygiad plant a gweithio fel rhan o dîm gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog: I'w drafod yn ddibynol ar brofiad
Oriau: I'w drafod - (rhwng 8-30 awr yr wythnos)
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar lefel 3 neu uwch.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Angharad Phelps-Jowers cylchmeithrinrhiwbeina@gmail.com
Dyddiad Cau: 30/09/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-12.30 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-12.30 | |
| Dydd Mercher | 9.00-12.30 | |
| Dydd Iau | 9.00-12.30 | |
| Dydd Gwener | 9.00-12.30 |