Lleoliad - YSGOL GYNRADD GROES-WEN PRIMARY SCHOOL , RHODFA PLASDWR , SAIN FFAGAN , CAERDYDD, CF5 2FG
Ymunwch â’n tîm fel Swyddog Busnes a chwarae rhan allweddol wrth gefnogi rheolaeth, gweinyddiaeth a datblygiad y Cylch Meithrin, gan weithio’n agos gyda’r Arweinydd, y Pwyllgor, staff a rhieni.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Cyflog: £14.50 yr awr
Oriau: 10 awr hyblyg yr wythnos
Yn ddelfrydol bydd gan Swyddog Busnes y Cylch Meithrin gymhwyster perthnasol mewn maes gweinyddol / busnes/ rheoli /TG neu brofiad cyfwerth er mwyn gallu cefnogi’r Cylch Meithrin a’r Staff i weithredu yn unol â’r gofynion gan ein sefydliadau partner a’r Mudiad Meithrin.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd : Ebost: sioned.jones@meithrin.cymru Rhif ffon – 07966313119
Dyddiad Cau: 17/09/2026