“ Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd, ac ni ddylai unrhyw deulu gael ei ddal yn ôl gan gost gofal plant.” (Llywodraeth Cymru)

Mae Mudiad Meithrin yn croesawu cyhoeddiad heddiw o Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2026-2030, sy’n cynnwys ymrwymiad i ddarparu Cynnig Gofal Plant  cyffredinol newydd i blant rhwng 9 mis a 4 oed.

Mae’r ymrwymiad hwn gan y Llywodraeth yn adlewyrchu ac ategu galwad Mudiad Meithrin yn ein Maniffesto am ddarpariaeth gofal plant gyffredinol i bob plentyn o naw mis oed ymlaen.

Wrth ymateb i’r rhaglen newydd, dywedodd Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae’r ymrwymiad i’r Cynnig Gofal Plant newydd ac i ehangu darpariaeth Gymraeg yn gam pwysig ymlaen i blant a theuluoedd ledled Cymru, ac mae’n gam i’w groesawu’n fawr.

Fel aelod o’r Grŵp Llywio Arbenigol, edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan yn y gwaith pwysig hwn gan fod hyn yn cyd-fynd â dyheadau a Maniffesto Mudiad Meithrin i ehangu’r Cynnig Gofal Plant i blant 9 mis oed + . Dyma gyfle unigryw i adeiladu system sy’n fwy teg, yn fwy cynhwysol, ac sy’n rhoi’r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd pob plentyn o’r cychwyn cyntaf.”