Yn ôl i'r rhestr swyddi

Asesydd Lefel 3 Cynlluniau Cam Wrth Gam (Cynllun Hyfforddi neu Cynllun Ysgolion)

Caerdydd, Caerffili, Castell Nedd Port Talbot, Ceredigion, Penybont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Gâr, Torfaen
Gwybodaeth Gyffredinol

Ydych chi’n frwdfrydig dros hyfforddi, asesu a datblygu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?

Rydym yn chwilio am aseswyr addas i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a gofynion y Cyrff Dyfarnu CBAC / City and Guilds ar draws Cynlluniau Cam wrth Gam yn ôl y galw.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol

Rhif Ffôn: 07791 519144

E-bost: eunice.jones@meithrin.cymru

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru

Noder: Cynhelir y cyfweliadau wythnos yn cychwyn 2.11.2026

Manylion y Swydd

Cyflog: MM18 – MM22 - £26,926 - £30,350

Oriau: Hyd at 37.5 awr yr wythnos

Manylion cymwysterau

Gweler y swydd ddisgrifiad

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 23/10/2026