Asesydd Lefel 5 Cynllun Cam Wrth Gam
Ar draws CymruYdych chi’n frwdfrydig dros hyfforddi, asesu a datblygu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?
Rydym yn chwilio am aseswyr cymwys i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a gofynion y Cyrff Dyfarnu City and Guilds.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol
Rhif Ffôn: 07791 519144
E-bost: eunice.jones@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Noder: Cynhelir y cyfweliadau wythnos yn cychwyn 2.11.2026
Cyflog: MM21 – MM25 £29,420 - £33,530
Oriau: Hyd at 37.5 awr yr wythnos
Gweler swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 23/10/2026