· Newidiadau i Dâl Salwch Statudol o Ebrill 2026
· Archwiliad annibynnol o gyfrifon AM DDIM
· Quickfile
Newidiadau i Dâl Salwch Statudol o Ebrill 2026
Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i hawliau Tâl Salwch Statudol (TSS) ers ddechrau Ebrill 2026. Cyn hynny, roedd yn rhaid i gyflogai fod yn sâl am 3 diwrnod gwaith ac yn ennill isafswm cyflog cyn eu bod yn gymwys ar gyfer tâl salwch statudol; ond ers dechrau Ebrill mae hyn wedi newid i fod yn sâl am o leiaf un diwrnod gwaith llawn a dim isafswm cyflog.
Ers Ebrill 2026, dyma’r meini prawf ar gyfer Tâl Salwch Statudol:
· Mae’n rhaid i’r aelod o staff gael cytundeb, â’u bod yn gweithio o dan y cytundeb hwnnw
· Angen bod i ffwrdd o’r gwaith am o leiaf un diwrnod gwaith cyfan
· Dim isafswm cyflog i fod yn gymwys ar gyfer TSS o Ebrill 2026
· Angen rhoi tystiolaeth o’r salwch os ydynt yn absennol am fwy na 7 diwrnod
Bydd hyn yn golygu bydd costau ychwanegol i’r cylch os oes aelodau o staff i ffwrdd yn sâl am lai na 3 diwrnod. Graddfa Tâl Salwch Statudol ar gyfer 2026/27 ydi £123.25 yr wythnos, neu 80% o incwm wythnosol cyfartalog – pa bynnag ydi’r isaf.
Mae cyflwyniad manwl am holl agweddau Tâl Salwch Statudol, a materion cyllid eraill, ar gael ar ein gwefan Cyllid a Grantiau – Mudiad Meithrin. Gallwch hefyd holi eich cwmni cyflogres am gyngor.
Archwiliad annibynnol o gyfrifon AM DDIM
Ydy eich cylch wedi cofrestru fel elusen SCE (CIO), ac ag incwm rhwng £25,000 – £250,000? Os ydy, bydd rhaid trefnu archwiliad annibynnol o’r cyfrifon gan berson gymwys cyn cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol i’r Comisiwn (yn ogystal â chyflwyno ffurflen datganiad blynyddol, Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR), cyfrifon blynyddol). Os hoffech gymryd mantais o’r cyfle i gael archwiliad annibynnol am ddim gan gyfrifydd profiadol pro-bono, cysylltwch â materionelusennol@meithrin.cymru cyn gynted â phosib.
D.S. – nid yw’r cyfrifydd gallu paratoi’r cyfrifon, ond gall cynnig cefnogaeth ac arweiniad gyda’r dogfennau. Gall gostio dros £500 i gael archwiliad annibynnol wedi’i gwblhau gan gwmni neu berson proffesiynol, felly ewch amdani.
Cofiwch – y cyntaf i’r felin!
Quickfile
Mae’r meddalwedd cyfrifo Quickfile yn rhad ac am ddim i elusennau (hyd at 1000 gweithrediad y flwyddyn). Mae un o’r cylchoedd sydd wedi defnyddio’r system yn adrodd nôl ei bod yn system syml i’w defnyddio, ac yn gymorth wrth baratoi adroddiadau ariannol ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgor ac i baratoi’r cyfrifon blynyddol. QuickFile: Free Accounting Software