Newyddion da i blant bach Cymru (a’u rhieni!) – mae Heini yn ôl ar y sgrin!

Mae tîm Sianel Youtube Dewin a Doti yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi cydweithio gyda Heini (Karen Elli) yn diweddar i greu cyfres newydd o fideos yn cyflwyno 10 o ganeuon a symudiadau cadw’n heini i blant a’u rheini gymryd rhan ynddyn nhw.

Meddai Gwenno Haf Jones, Arweinydd Prosiect Sianel Youtube Dewin a Doti:

“Mae 2 fideo o’r gyfres wedi eu rhyddhau’n barod a bwriadwn ryddhau’r gyfres gyfan yn ystod y tymor i ddod. Y bwriad wedyn yw creu un fideo hir o holl ganeuon Heini fel eu bod i gyd ar un fideo i’w gwneud hi’n haws i’r teulu ddilyn y gyfres gyfan gyda’i gilydd.”

 Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i greu fideos hwyliog i ddod â’r Gymraeg yn fyw yn y cartref. Ers sefydlu’r prosiect bron i dair mlynedd yn ôl mae 240 o fideos wedi eu creu, bron i hanner miliwn o ‘views’ iddyn nhw a dros 2,000 wedi tanysgrifio i’r sianel

Mae Sianel Dewin a Doti yn cynnwys cyfresi o fideos wedi eu creu yn y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a meithrinfeydd dydd; cyfres Amser Stori; cyfres arddio gydag ‘Adam yn yr Ardd’, cyfres o ganeuon gan Siani Sionc a Martyn Geraint i enwi ond rhai.

Ychwanegodd Gwenno:

“Heb os, y cyfresi o ganeuon yw’r rhai mwyaf poblogaidd ar y Sianel – mae’n ffordd hwyliog o ddysgu caneuon newydd, a iaith newydd i lawer, a bydd y gyfres newydd o ganeuon Heini yn ffordd hwyliog o gadw’n heini ar yr un pryd!”