Lleoliad - Ysgol Llandybie, Llandybie, Rhydaman, SA18 3JB
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am ddirprwy arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i helpu arwain pob agwedd o waith y Cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Cyflog: Yn agored i drafodaeth yn dibynnu ar brofiad
Oriau: 30 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Tymor Ysgol yn unig.
Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu – Kathryn.jones@meithrin.cymru neu 07483 366 234
Dyddiad Cau: 27/11/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-12.40 | 15.15-17.00 |
| Dydd Mawrth | 9.00-12.40 | 15.15-17.00 |
| Dydd Mercher | 9.00-12.40 | 15.15-17.00 |
| Dydd Iau | 9.00-12.40 | 15.15-17.00 |
| Dydd Gwener | 9.00-12.40 | 15.15-17.00 |