Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, mae Mudiad Meithrin yn falch iawn i gyhoeddi lansiad pecyn adnoddau a hyfforddiant, Cylch i Bawb, nos Iau 27 Ionawr.

Sicrhau lle amlwg i amrywiaeth a chydraddoldeb mewn addysg blynyddoedd cynnar sydd wrth wraidd y pecyn sy’n cael ei lansio’r wythnos hon. Mae Cylch i Bawb yn adnodd newydd sbon ar gyfer Cylchoedd Meithrin.

Yr unig  hyfforddiant o’i fath yn y Gymraeg, bwriad yr adnodd yw cynnig hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan sicrhau bod yr un croeso ar gael i unrhyw un sydd am fod yn rhan o gymuned Mudiad Meithrin.  Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar brofiadau unigolion ac yn annog pobl i feddwl am eu lleoliadau a sut orau i gynnig gwasanaeth teg sy’n cynnwys pawb.

Dywedodd James Lusted, hwylusydd y lansiad:

“Mae’n fraint i gael arwain y drafodaeth bwysig hon gan fod cynhwysiant yn bwnc agos at fy nghalon. Mae gen i brofiad byw o herio rhagfarnau a goresgyn rhwystrau, nid oherwydd fy anallu i ond oherwydd anallu cymdeithas i ystyried pawb, felly rwy’n falch bod Mudiad Meithrin yn blaenoriaethu’r hyfforddiant yma i leoliadau gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Dechreuais fy nhaith i fod yn siaradwr Cymraeg pan anfonodd fy rhieni fi i Gylch Meithrin ac mae’n braf gweld bod plant Cymru yn eu holl amrywiaeth yn parhau i gael eu profiadau cyntaf yn y Gymraeg drwy

ddarpariaethau Mudiad Meithrin.”

Meddai Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant ac Academi Mudiad Meithrin:

“Mae Cylch i Bawb yn adnodd arbennig sy’n dathlu amrywiaeth ac yn rhoi sylfaen gadarn i faterion cydraddoldeb yn y Cylch. Ry’n ni fel Mudiad yn falch iawn o’r pecyn dysgu newydd yma sydd wedi ei greu ar y cyd â’n staff ac ymarferwyr. Drwy Cylch i Bawb mae cyfle i addysgu a hyfforddi holl staff y Cylch a’r pwyllgorau rheoli lleol am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, a chredwn fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg, ac felly yn Cylch Meithrin hefyd – ry’n ni’n croesawu pob plentyn bach i fwynhau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn ein lleoliadau. Mae’n flaenoriaeth i ni fel sefydliad i sicrhau fod adnoddau dysgu a datblygu addas, cywir ac o safon uchel ar gael i’n hymarferwyr i gyd.”

Mae Wan Toone yn ymarferydd yng Nghylch Meithrin Treffynnon ac yn ymddangos mewn ffilm sy’n rhan o adnodd Cylch i Bawb. Mae’n siarad am ei phrofiad:

“Pan roedd fy merch yn Meithrin Plws, rhoddodd aelod o staff daflen i mi yn hysbysebu Cwrs NVQ Lefel 3 Addysg Blynyddoedd Cynnar gyda Cam wrth Gam. Penderfynais fynd am gyfweliad ac roeddwn wrth fy modd i dderbyn cynnig i wneud y cwrs.

“Rwyf wedi bod yn Arweinydd Cylch Meithrin Treffynnon bellach ers 2009. Mae’r swydd wedi rhoi llawer o gyfleoedd a hyder i mi ddefnyddio fy Nghymraeg. Mae’r plant yn fy ngweld yn gyfartal i ymarferwyr eraill; mae hyn yn ei gwneud hi’n yn haws i blant o wahanol hil ac ethnigrwydd gydnabod eu bod nhw hefyd yn gyfartal ymhlith eu cyfoedion. Rwy’n meddwl y bydd Cylch i Bawb yn ychwanegiad gwych at yr hyfforddiant sydd eisoes ar gael gan Mudiad Meithrin.”

Bydd y lansiad yn digwydd am 19:00 ar y 27ain o Ionawr. Yn ystod y digwyddiad bydd trafodaeth gyda phanel o arbenigwyr yn y maes yn ogystal â siaradwyr gwadd. Mae croeso i unrhyw un sydd â ddiddordeb yn y maes i fynychu’r digwyddiad rhithiol. I gofrestru ewch i http://meithrin.cymru/digwyddiadau