Fel mudiad sy’n angerddol am roi addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, bydd Mudiad Meithrin yn cynnal Parêd Mudiad Meithrin am 10.30 fore Sadwrn 4 Mehefin ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal.

Mae’r Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi wedi bod yn brysur yn creu baneri lliwgar i’w cario fel rhan o’r orymdaith a bydd gwobr yn cael ei rhoi i’r 3 ar y brig.

Bydd yr orymdaith hefyd yn dathlu’r newyddion da fod Taith Gŵyl Dewin a Doti yn ei hôl ar ôl 3 blynedd, a bydd y diddanwr plant poblogaidd Siani Sionc yn arwain yr orymdaith.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn o stondin Mudiad Meithrin gan orffen ger llwyfan y maes lle bydd Siani Sionc yn rhoi perfformiad byw i roi blas o’r sioe fydd yn rhan o’r Daith.

Meddai Carys Gwyn, Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain:

“Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 300 o blant a’u rhieni yn gorymdeithio gan chwifio baneri lliwgar i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal. Rydym hefyd yn croesawu unrhyw blentyn a’i deulu fydd ar y maes sy’n mynychu Cylch Meithrin yn unrhyw ardal o Gymru i ymuno gyda ni.”