Fel sefydliad sy’n angerddol am roi addysg Gymraeg i blant Cymru, mae Mudiad Meithrin yn hynod falch o gyhoeddi fod cais am grant i greu adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg am £100,000 i Lywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus.
Diben y cyllid ychwanegol yma fydd cynhyrchu pecyn o adnoddau amrywiol wedi eu hanelu’n bennaf at leoliadau Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar a’r Cynnig Gofal Plant i blant rhwng 3 a 5 oed. Bwriad yr adnoddau fydd i hybu dealltwriaeth bellach a chyfoethogi parodrwydd y sector i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd.
Bydd yr adnoddau amrywiol yn cynnwys:
- creu cyrsiau hyfforddi ar drochi iaith
- creu pecyn digidol sy’n canolbwyntio ar gynefin a straeon lleol o’r Mabinogi
- cyfres o bodlediadau ar y Cwricwlwm Newydd
- adnodd cartŵn
- adnodd digidol ar gadw’n heini
- datblygu cyfres o lyfrau byrion ar gymeriadau Dewin a Doti (cymeriadau unigryw’r Mudiad)
- creu cyfres copi caled o lyfrau darllen Dewin a Doti
- adnodd trawsnewid ar gyfer arweinwyr sy’n cynnwys hyfforddiant ar elfennau rheoli ac arwain
- ail gymal ‘Cymru Ni’ – sef adnodd am hanesion amrywiol gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae Mudiad Meithrin yn gwneud gwaith pwysig i ddatblygu sgiliau dysgu ein plant ieuengaf. Rwy’n falch o gefnogi’r adnoddau hyn, gyda’u ffocws ar rai o’n hoff straeon a chymeriadau, a fydd yn offer dysgu rhagorol wrth i’n Cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno o eleni ymlaen.”
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae Mudiad Meithrin wedi bod ar flaen y gad yn cynhyrchu adnoddau amrywiol ar gyfer y sector nas gynhelir cyfrwng Cymraeg ers ei sefydlu yn 1971. Ar bob cam o’r daith a gyda phob datblygiad perthnasol aed ati i arwain y sector gyda chyhoeddi adnoddau addas a phwrpasol trwy gyd-gynhyrchu gyda’r sector ei hun.
Mae Cymru ar groesffordd bwysig o ran ei datblygiad pedagogaidd a phlethu gofynion cwricwlwm newydd yn barod ar gyfer Medi 2022 gydag ethos ECEC, y dull trochi, newidiadau ADY a’r pwyslais gynyddol ar hanes Cymru a’i phobl amrywiol. Rydym wedi cyhoeddi rhai adnoddau eisoes e.e. adnoddau hyfforddiant ar y cwricwlwm a’r pedwar diben; pecyn ‘Dewch i Ddathlu’ ar brif grefyddau’r byd grëwyd ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor a phecyn ar hwiangerddi o ddiwylliannau ac ieithoedd amrywiol er mwyn cyfoethogi’r cysyniad o ‘gynefin’. Bydd y cyllid yma’n ein galluogi i greu pecyn o adnoddau amrywiol newydd a’u dosbarthu am ddim i Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd gan hefyd fod o fudd i ysgolion”.