Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gydag Addysg Oedolion Cymru i gynnig hyfforddiant i gymhwyso ym maes y blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y bartneriaeth yn cael ei chyhoeddi’n swyddogol yn Sesiwn Ti a Fi Drenewydd am 1:30pm ddydd Iau, 9 Mehefin. Fe fydd y lansiad yn digwydd ar safle Ysgol Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd.
Bydd oddeutu 30 o ddysgwyr yn cychwyn ar eu cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 ym mis Mai drwy’r bartneriaeth hon.
Bydd y cydweithio yma yn ychwanegiad pwysig i bortffolio Mudiad Meithrin yn y maes darpariaethau hyfforddi a chymhwyso.
Meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu:
“Mae’r bartneriaeth hon yn cynyddu’r opsiynau sydd ar gael i oedolion gymhwyso yn y maes Gofal Plant. Ry’n ni’n falch iawn o fedru cydweithio â chorff cenedlaethol Addysg Oedolion Cymru i sicrhau fod mwy o bobl yn medru cael mynediad at y cwrs yma. Mae prinder staffio yn dal i fod yn her mewn sawl Cylch Meithrin a Meithrinfa Ddydd ac felly mae’r cydweithio yma’n cyfrannu ymhellach at sicrhau fod gennym ni weithlu cymwys, cyfrwng Cymraeg yn ein lleoliadau gofal plant.”
Meddai Mark Baines o Addysg Oedolion Cymru:
“Mae Addysg Oedolion Cymru yn gyffrous iawn wrth gychwyn partneriaeth gyda Mudiad Meithrin i gefnogi datblygiad a darpariaeth cymwysterau gofal plant i ystod eang o unigolion ledled Cymru. Bydd y bartneriaeth yn helpu i ddarparu cyfleoedd pellach i gynyddu nifer yr unigolion cymwys ledled Cymru, a fydd yn ei dro yn arwain at well cyfleoedd cyflogaeth.”
Bydd y Mudiad yn darparu cefnogaeth lawn i bob dysgwr drwy eu tîm cenedlaethol o aseswyr profiadol. Yn ychwanegol at hynny, bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn rheolaidd, ac adnoddau dysgu a datblygu unigryw ar gael i bob dysgwr. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflogi gan y lleoliad tra’n cymhwyso dros y 18 mis ac felly yn elwa o gyfleon hyfforddiant a dysgu proffesiynol parhaus Academi Mudiad Meithrin.
Ychwanegodd Helen Williams:
“Mae ansawdd a safon y ddarpariaeth gan Mudiad Meithrin yn arbennig o uchel. Cafodd tîm y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol ganmoliaeth uchel am eu gwaith yn darparu’r cymhwyster gan wiriwr allanol y CBAC a City and Guilds yn ddiweddar sydd yn atgyfnerthu’r ffaith mai’r Mudiad yw arbenigwyr y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.”