Dyma gasgliad o adnoddau, canllawiau, taflenni wybodaeth fydd efallai o ddefnydd i chi wrth i chi ymdopi gyda gofynion y cwricwlwm.

Dathlu’r cwricwlwm   

Dyma adnodd newydd sy’n cyflwyno prif elfennau’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Cyfres o sgyrsiau gydag ymarferwyr sy’n rhannu eu profiadau o roi’r cwricwlwm ar waith. Mae’r adnodd yn cael ei rannu’n chwe rhan – fformat hwylus ar gyfer trafod un rhan ar y tro, naill ai mewn cyfarfod tîm neu’n eich amser eich hun.

I dderbyn copi o’r adnodd, archebwch yma.

I wylio’r clipiau fideo, cliciwch ar y fideo penodol isod:

I dderbyn copi o’r adnodd, cliciwch ar y isod.

Cyflwyniad

Enghreifftiau 

Templed

Dehongliad o’r trefniadau asesu

Bydd yr adnodd yma yn eich cefnogi i ddeall sut, pam, ble a phryd i arsylwi ac asesu cynnydd plant a sut i ddilyn y proses o sylwi, dadansoddi ac ymateb i’w diddordebau.

I dderbyn copi o’r pecyn hwn, archebwch yma.

Dyma’r pwerpwynt ar gyfer y sesiwn asesu a chynllunio.

Rhan 1

Rhan 2

 

Dyma adnodd newydd gan Mudiad Meithrin ac awdurdod lleol Powys ar ‘Cynefin’. Fe fydd yr adnodd yma yn eich cefnogi wrth ddehongli ystyr ‘Y man lle rydyn ni’n teimlo’n ein bod yn perthyn’ a sut gall hwn edrych i blant bach. Rydym wedi cynnwys caneuon, profiadau, llyfrau a geirfa Cymraeg sylfaenol.

I dderbyn copi o’r pecyn hwn cliciwch ar y poster uchod.

 

Gwneud Mathemateg yn Bwrpasol ac Ystyrlon

Dyma rhan gyntaf o adnodd newydd sy’n archwilio cysyniadau mathemategol ac yn trafod sut i gyflwyno’r cysyniadau hyn i blant bach. Bydd ail ran yr adnodd yn archwilio’r cysyniadau hyn yn fanylach ac yn rhannu arfer da o leoliadau Mudiad Meithrin. Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth.

Cliciwch ar y posteri i’w lawrlwytho.

 

 

 

 

 

Cyflwyniad i ddulliau addysgeg

Efallai eich bod wedi clywed y term ‘addysgeg’ sawl gwaith. Cyfeirir ato sawl gwaith yn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Diffinnir y term addysgeg yn y cwricwlwm fel:

‘Y dull neu’r arfer o addysgu’

Pan fyddwn yn siarad am addysgeg yn y blynyddoedd cynnar, rydym yn golygu ‘sut’ yr ydym yn dysgu, neu’r holl bethau sy’n galluogi oedolion i feithrin dysgu a datblygiad plant.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Oedolyn sy’n galluogi – mae perthynas gynnes, ymddiriedus gydag oedolion gwybodus yn cefnogi dysgu plant yn fwy effeithiol nag unrhyw faint o adnoddau. Gall ymarferydd gwybodus benderfynu pryd i sefyll yn ôl, pryd i ryngweithio, a beth i’w gynnig i’r plentyn.

 

  • Amgylchedd effeithiol – mae’r amgylchedd rydyn ni’n ei greu yn ein lleoliad, tu fewn a thu allan, yn ganolog i brofiadau dilys plant. Dylem fonitro ac adolygu effeithiolrwydd yr amgylchedd yn barhaus ac addasu yn unol â hynny. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae archwilio’r amgylchedd yn sbardun allweddol ar gyfer datblygu. Trwy archwilio eu hamgylchedd, mae plant yn dechrau datblygu ymdeimlad o berthyn a gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas.

 

  • Profiadau sy’n ennyn diddordeb – dylai’r profiadau a gynigiwn yn y blynyddoedd cynnar fod yn ymarferol, yn bwrpasol ac yn ystyrlon i’r plentyn. Dylent annog annibyniaeth plant, cynnig risg, her a chyfleoedd i brofi llwyddiant ar hyd y daith ddysgu. Dylent gael eu gwreiddio mewn cyd-destunau go iawn, dilys, er mwyn ennyn diddordeb plant mewn lefelau dwfn o gyfranogiad a chyfnodau hir o ddysgu gweithredol, di-dor.

 

Mae egwyddorion addysgeg effeithiol wedi’u hymgorffori drwy’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Mae angen i ni sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn darparu cyfleoedd cyson i brofi’r canlynol:

  • chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae – mae chwarae’n hawl sylfaenol i bob plentyn. Mae ganddyn nhw angen cynhenid cryf i chwarae. Trwy chwarae a phrofiadau chwareus, mae plant yn dod o hyd i ffyrdd o archwilio amrywiaeth o emosiynau a dysgu am y byd y maent yn byw ynddo.
  • bod y tu allan – mae bod yn y tu allan yn arbennig o bwysig i blant ifanc. Mae’n cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, yn ogystal â lles.
  • dysgu dilys a phwrpasol – bydd profiadau perthnasol ac ystyrlon sydd wedi’u gwreiddio mewn cyd-destunau bywyd go iawn yn galluogi plant i wneud cysylltiadau, cymhwyso gwybodaeth a sgiliau cydgrynhoi. Gall profiadau bywyd go iawn alluogi plant i arwain wrth ofyn cwestiynau, nodi problemau, mentro a dod o hyd i atebion.
  • llythrennedd corfforol – mae’n hanfodol ein bod yn gosod sylfeini llythrennedd corfforol yn y blynyddoedd cynnar trwy fodelu agweddau cadarnhaol tuag at symud a darparu amgylchedd sy’n rhoi cyfle i blant archwilio, ymarfer a chyfuno ystod eang o symudiadau corfforol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

 

Mae llawer o ddamcaniaethwyr blynyddoedd cynnar wedi datblygu gwahanol addysgeg – efallai y bydd eich Cylch Meithrin/meithrinfa ddydd yn penderfynu mabwysiadu addysgeg benodol. Mae bob amser yn werth ymchwilio a darllen am yr addysgeg y mae gennych ddiddordeb ynddo gan y bydd hyn yn sicrhau eich bod yn ei ddewis i fod o fudd uniongyrchol i’r plant rydych yn gofalu amdanynt. Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau addysgeg canlynol o fewn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a’i addasu at eich lleoliad eich hun.

** Nid yw’r Mudiad Meithrin yn cymeradwyo unrhyw ddulliau addysgeg penodol. Rydym wedi cynnwys rhai enghreifftiau at ddibenion gwybodaeth yn unig.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Judith Grigg BEd (Anrh) MAEd, Swyddog Arweiniol Dysgu Sylfaen.

judith.grigg@meithrin.cymru

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Cliciwch isod i weld carden post ar Miri Mawr;

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn yr Hydref

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn ystod y Gaeaf;

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn ystod y Gwanwyn;

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn ystod yr Haf;