Cyrsiau Camau - Cyfle i gychwyn, ehangu a chryfhau ar eich taith dysgu Cymraeg yn y cylch!

Dyma’r cyrsiau i chi os ydych yn gweithio mewn Cylch Meithrin neu feithrinfa ddydd.

Cyrsiau Cymraeg Gwaith pwrpasol am ddim, ar-lein ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yw Cyrsiau Camau. Maent yn gyrsiau hunan-astudio gellir eu dilyn pryd bynnag sy’n gyfleus i chi.

Darperir y cyrsiau mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae cyrsiau lefel Mynediad, Sylfaen a Chanolradd ar gael.

Disgwylir i bob dysgwr gyflawni tua un uned yr wythnos. Mae tua 30 o oriau dysgu ar gyfer pob lefel.

Cliciwch yma am restr lawn o’r sgiliau newydd y byddwch yn eu dysgu yn ystod y cyrsiau.

Mae cefnogaeth ar gael i bob dysgwr gan Rhian Thomas, Prif Swyddog Camau. Mae Rhian ar gael i’ch helpu, eich cefnogi, eich ysbrydoli a’ch cynghori wrth i chi gwblhau’r cwrs.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas? Cysylltwch â camau@meithrin.cymru