Arweinydd Cylch Meithrin Parc Y Bont (Llanddaniel)

Lleoliad: YSGOL PARC Y BONT , LLANDDANIEL FAB , GAERWEN. LL60 6HB Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am Arweinydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan allweddol o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.  

Rheolwr Cylch Meithrin Penygroes (Plant y Nant)

Lleoliad –  Y CABAN, YSGOL BRO LLEU, FFORDD Y BRENIN, PENYGROES, CAERNARFON, LL54 6RE Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am reolwr ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro (Cyfnod Mamolaeth)

Ydych chi’n angerddol dros y Gymraeg ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn? Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, ysbrydoledig ac ymroddedig i ymuno â darpariaethau Mudiad Meithrin er mwyn arwain ar ymestyn a datblygu sgiliau ieithyddol staff a phlant. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant iaith o safon, cynnig mentora cefnogol, … Continued

Arweinydd Ystafell Meithrinfa Medra

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd. Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Delyth Evans, Rheolwr Meithrinfeydd Cymru Rhif Ffôn: 01970 639639 E-bost: delyth.evans@meithrin.cymru   Gwneud Cais: Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod. Dychwelwch y ffurflenni … Continued