
Sianel Gymunedol YouTube Dewin a Doti
Yn sgil llwyddiant cais Mudiad Meithrin am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2023, rydym wedi sefydlu sianel YouTube Dewin a Doti i greu amrywiaeth o fideos addysgiadol, amrywiol a llawn hwyl i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.
Rydym yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig, a chreadigol i farchnata a hyrwyddo Sianel Dewin a Doti mewn modd amrywiol, deniadol ac apelgar i gynulleidfa eang ar ein holl blatfformau digidol ac mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru.
Mae croeso i chi gysylltu ag Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau i drefnu sgwrs anffurfiol am y swydd – iola@meithrin.cymru
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, - gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru erbyn 13.00, 15 Mehefin 2026
Cyfweliadau: 19 Mehefin 2026.
Ariennir y swydd uchod gan grant y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am gyfnod penodol hyd at 31.03.2027
Cyflog: £25,175 - £28,531
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 15/06/2026
Dyddiad Cyfweliad: 19/06/2026