Diwrnodau Hyfforddiant Mudiad Meithrin – 'Bod y Tu Allan'

24 Ebrill 2024 – Plas Menai,
Caernarfon, LL15 1UE

 

25 Ebrill 2024 – Cefn Lea,
Y Drenewydd, SY16 4AJ

 

26 Ebrill 2024 – Gardd Fotaneg Genedlaethol,
Llanarthne, SA32 8HN

 

10.00 – 15.30 – Darperir cinio a lluniaeth ysgafn drwy’r dydd

 

Addas ar gyfer: staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd ac aelodau Cwlwm, Athrawon Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar

Ymunwch â ni am ddiwrnod cyfan yn y tu allan i ddathlu’r amgylchedd naturiol. Dros dridiau ym mis Ebrill yn y gogledd, y canolbarth a’r de, byddwn yn archwilio rhyfeddod y tu allan, yn rhwydweithio ac yn rhannu syniadau newydd – waeth bynnag fo’r tywydd!

Byddwn yn dechrau’r diwrnod gyda’n prif siaradwr:

Pete Moorhouse

Pete Moorhouse mae Pete yn addysgwr ac ymgynghorydd creadigol y blynyddoedd cynnar. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o weithio fel Addysgwr Artistig mewn ysgolion a lleoliadau. Mae Pete hefyd yn gymrawd ymchwil anrhydeddus ym Mhrifysgol Bryste ac mae wedi ymchwilio i greadigrwydd, meddwl beirniadol ac ymarfer dysgu myfyriol a dulliau asesu ar gyfer monitro dilyniant creadigol. Mae ei waith wedi’i ysbrydoli gan ei astudiaeth fanwl o ddull Reggio Emilia, egwyddorion Froebelian a’i ymchwil yn Japan, Seland Newydd ac UDA.

Yn ei gyflwyniad bydd Pete yn mynd â ni ar daith o greadigrwydd yn yr awyr agored; cyflwyno plant ifanc i risg; chwarae mentrus; rôl yr oedolyn sy’n galluogi yn y tu allan; llythrennedd corfforol; a sut mae hyn yn cyd-fynd â’r cwricwlwm ar gyfer Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.

Yna, cewch gyfle i fynychu tri gweithdy gwahanol drwy’r dydd. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal y tu allan lle’n bosib (bydd man cysgodi os fydd y tywydd yn wael.) Bydd pob gweithdy’n archwilio’r profiadau gwahanol y gellir eu darparu i blant ifanc. Yn ymuno â Pete i gyflwyno’r gweithdai bydd yr actores a’r awdur Leisa Mererid a Dr Glenda Tinney sy’n Uwch Ddarlithydd yn y Sefydliad Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.
               

Leisa Mererid                                                    Dr Glenys Tinney

Gweithdy 1 – Sut i ddatblygu creadigrwydd yn yr awyr agored? (yn Saesneg): Bydd Pete yn archwilio dull holistaidd o fod y tu allan, gan ganolbwyntio ar sut i ddatblygu creadigrwydd yn ein dysgwyr ifanc.

Gweithdy 2 – Meddylgarwch mewn plant ifanc (yn Gymraeg – gyda chyfieithu ar y pryd)

Bydd Leisa yn dangos sut i gyflwyno ymarferion ioga ac anadlu i blant ifanc; yn egluro beth yw llythrennedd corfforol a’r effaith y gall natur gael ar les plant ifanc.

Gweithdy 3 – Sut i ddatblygu cyfathrebu a chysyniadau mathemategol yn yr awyr agored (yn Gymraeg – gyda chyfieithu ar y pryd)

Bydd Glenda yn egluro sut i ddatblygu sgiliau cyfathrebu plant a chysyniadau mathemategol yn yr awyr agored.

Bydd Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant, Dysgu a Datblygiad Mudiad Meithrin hefyd yn ymuno â ni yn ystod y dydd i rannu gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi gyda Mudiad Meithrin a’r Cymhwyster Lefel 3, Bod y Tu Allan.

I gloi’r diwrnod, bydd cyfle i rwydweithio dros baned.

Bydd y diwrnod cyfan yn rhad ac am ddim. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

 

I gofrestru diddordeb, dewiswch y lleoliad cyfleus i chi a chliciwch ar y ddolen isod:

**Nid yw cofrestru diddordeb yn gwarantu eich lle, gan fod cyfyngiad ar nifer y mynychwyr y gallwn eu derbyn i’r digwyddiadau hyn.

Byddwn ni yn cysylltu â chi i gadarnhau manylion os ydych yn llwyddiannus yn eich cais i gael lle ar y cwrs.

Peidiwch â mynychu’r digwyddiad heb eich bod wedi derbyn y cadarnhad hwn.

 

 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 11 Ebrill 2024