Diwrnodau hyfforddiant partneriaeth Cwlwm – Amrywiaeth a Pherthyn yn y Blynyddoedd Cynnar

10 Tachwedd 2026 – Swansea.com Stadium, Landore, Abertawe, SA1 2FA

12 Tachwedd 2026 –  Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB

 

9.00 – 15.30 – Darperir cinio a lluniaeth drwy gydol y dydd.

 

Addas ar gyfer:

Ymarferwyr Cwlwm (Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin, NDNA, Coram Pacey), ymarferwyr mewn ysgolion, myfyrwyr ac athrawon ymgynghorol blynyddoedd cynnar.

Ymunwch â ni ym mis Tachwedd, yn ne a gogledd Cymru, i archwilio amrywiaeth a pherthyn yn y blynyddoedd cynnar, yng nghwmni Ian Timbrell o ‘More Than Flags and Rainbows’. Dewch i ddysgu, rhannu a mwynhau!

Ein siaradwr gwadd ydy:

Ian Timbrell

Sefydliad di-elw yw More Than Flags and Rainbows sy’n gweithio i wneud pob lleoliad, coleg a chymuned yn ofodau mwy cynhwysol. Wedi’i sefydlu gan Ian Timbrell, mae ganddynt brofiad helaeth o weithio gydag ysgolion a sefydliadau ar draws y DU. Maent wedi darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein i filoedd o athrawon, yn ogystal â rhedeg rhwydwaith i deuluoedd mabwysiadu a LHDTC+ yn Ne Cymru. Mae Ian yn cyffroes iawn i weithio gydag ymarferwyr yn ein sector ni.

 

Ffocws y Diwrnod:

  • Cyflwyniad i dermau a chysyniadau allweddol — meithrin dealltwriaeth gyffredin ac hyder
  • Pwysigrwydd gwaith amrywiaeth — o’r uwchradd i’r blynyddoedd cynnar i ddangos y llwybr cyfan
  • Adolygu’r cwricwlwm a chynrychiolaeth — archwiliad ymarferol o lyfrau, modelau rôl ac ymwelwyr i sicrhau cynrychiolaeth amrywiol
  • Dewis llyfrau amrywiol o ansawdd — canllawiau ar ddewis adnoddau a chynllunio gweithgareddau/profiadau pwrpasol
  • Gweithio gyda rhieni a gofalwyr — gan gynnwys rheoli pryderon ac ymgysylltu â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol

 

Cyfraniad Ymarferwyr lleol

Bydd ymarferwyr o leoliadau lleol yn rhannu eu profiadau a’u harferion da yn ystod y dydd.

Bydd y diwrnod cyfan yn rhad ac am ddim, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

 

I gofrestru diddordeb, dewiswch y lleoliad cyfleus i chi a chliciwch ar y ddolen isod:

Dyddiad cau i gofrestru – 23 Hydref 2026. Mae llefydd yn gyfyngedig!