Gair am air – Cyflwyniad i’r Dull Trochi.

Mae’r cyflwyniad hwn wedi’i rannu yn dair rhan. Gwyliwch y cyfan i ddod i ddeall pwysigrwydd y Dull Trochi, sef y ffordd fwyaf effeithiol o gychwyn plentyn bach di-Gymraeg ar y llwybr o ddod yn ddwyieithog.

Rhan 1

Beth yw’r dull trochi: a pham ei fod yn ddull mor effeithiol gyda phlant ifanc a beth yw’r camau tuag at ddwyieithrwydd cynnar.

Rhan 2

Plant bach yn ddysgwyr gwych: amlinelliad o’r broses gymhleth a difyr hwnnw o blant bach yn caffael iaith ynghyd â’u sgiliau aruthrol wrth wneud hynny.

Rhan 3

Iaith a Chwarae: ac ambell i awgrym ymarferol.