Categorïau

Mae’r cwrs yn 18 mis o hyd ac mae disgwyl i’r dysgwr fod yn gyflogedig yn y lleoliad am o leiaf 16 awr yr wythnos. Mae’n rhaid i chi gwblhau 700 awr yn ystod y 18 mis.
Bydd disgwyl i chi fynychu gweithdy lleol ddwywaith y mis am y chwe mis cyntaf, sy’n golygu 18 gweithdy dros hyd y cwrs.

Byddwch yn derbyn cyflog prentis o £5.28 yr awr, os nad ydych yn gyflogedig yn barod yn y lleoliad.
Os nad ydych yn gyflogedig mewn lleoliad yn barod, gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth fel Prentis.
Gallwch gael eich lleoli a’ch cyflogi mewn:
Cylch Meithrin,
Meithrinfa Ddydd Cyfrwng Cymraeg
neu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Byddwn yn cadarnhau a yw eich lleoliad yn addas ar gyfer yr hyfforddiant.
Mae’n rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yw wythnos.
Os oes gennych blentyn sy’n mynychu’r lleoliad gwaith arfaethedig, bydd angen i chi drafod gyda’r lleoliad i ddarganfod a yw’n addas i chi wneud 16 awr yn y lleoliad.

Does dim angen i chi brynu unrhyw adnoddau. Byddwch yn derbyn llawlyfr CBAC / City and Guilds, llyfrau unedau o waith a chasgliad o adnoddau electroneg am ddim fel rhan o’r cwrs.

Y Gwaith
Bydd asesydd yn ymweld â’r lleoliad bob mis am ddwy awr er mwyn arsylwi ar eich ymarfer, ac asesu eich cymhwysedd i weithio gyda phlant. Ni fydd asesu ffurfiol yn digwydd tan y byddwch yn barod ar gyfer hynny.

Bydd angen i chi sefyll 3 prawf byr sy’n seiliedig ar senarios ac yna un aml-ddewis. Y rhain fydd yn dangos fod gennych y wybodaeth i weithio gyda phlant.

Bydd rhaid i chi wneud Sgiliau Hanfodol mewn Mathemateg ac Iaith a Llythrennedd os nad oes gennych radd C TGAU neu uwch yn y pynciau yma. Bydd angen cyflwyno tystysgrif i ddangos tystiolaeth o’r graddau yma.
Iaith
Fe fydd angen i’ch Cymraeg fod yn ddigon da i fedru gweithio gyda phlant trwy gyfrwng y Gymraeg, dilyn y gweithdai yn Gymraeg a sefyll profion yn y Gymraeg.
Lleoliad
Bydd rhaid cael cydweithrediad y lleoliad i fynychu’r diwrnodau hyfforddiant a’r profion.

  • Arweinydd Cylch Meithrin
  • Cynorthwy-ydd Cylch Meithrin
  • Rheolwr Meithrinfa
  • Dirprwy Rheolwr Meithrinfa
  • Cynorthwy-ydd Meithrin, Meithrinfa
  • Cynorthwy-ydd Cyfnod Sylfaen
  • Arweinydd Clwb Ar Ôl Ysgol
  • Cynorthwy-ydd Clwb Ar Ôl Ysgol
  • Cynorthwy-ydd Dosbarth Ysgol Gynradd

Mae’r broses o asesu’r cymhwyster hwn yn gofyn am waith partneriaeth agos rhwng y lleoliad a’r asesydd.

Bydd angen i’r person sydd â chyfrifoldeb dros y dysgwr yn y lleoliad gynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr a’r asesydd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cofnodi a’u gwirio’n fewnol. Mae’n bwysig bod y lleoliad yn helpu i sicrhau bod y broses asesu yn mynd yn esmwyth, a bod taith y dysgwr drwy’r broses yn ddidrafferth.

Bydd cyfrifoldeb ar y lleoliad i gyfrannu tuag at bortffolio’r dysgwr. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei gynnig i bob lleoliad ar yr elfen hyn.