Y Pwyllgor
Y pwyllgor rheoli sy’n gyfrifol am weithredu fel cyflogwr gan gynnwys penodi, cyflogi, cefnogi a rheoli staff. Cyn dechrau ar unrhyw brosesau cyflogi dylech drafod gyda’ch Swyddog Cefnogi lleol i sicrhau eich bod yn dilyn y prosesau cywir.
Mudiad Meithrin
Mae canllawiau adnoddau dynol yn ein Llyfr Bach Piws ac ar ein mewnrwyd. Mae gan ein haelodau hefyd fynediad at linell gymorth sy’n cynghori ar faterion cyfreithiol.
Nid ydym yn darparu cyngor adnoddau dynol i aelodau staff unigol nac i bwyllgorau sydd yn gweithredu’n groes i’r cyngor a roddir yn y Llyfr Mawr Piws / Canllawiau Rheoli neu wedi gweithredu yn groes i unrhyw reoliadau cyfreithiol.
Gwybodaeth ychwanegol:
Gallwch weld rhestr o’r cymwysterau derbyniol yma
Yn ogystal â’n mewnrwyd a chefnogaeth eich Swyddog Cefnogi lleol, mae cymorth ychwanegol ar gael ar faterion staffio ac adnoddau dynol gan ACAS <http://www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=1461>, a chysylltiadau defnyddiol eraill yw:
Cyfrifiannell tâl colli gwaith
Busnes Cymru : Gwybodaeth, cyngor a chymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
Advice Guide: Help ar-lein gan Cyngor ar bopeth
Cyllid a Thollau: Cymorth a Gwybodaeth Cyflogaeth Cyffredinol
Cymru Iach ar Waith: Cymorth ym maes iechyd i wella iechyd yn y gwaith, atal afiechyd a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl afiechyd.