Prif nod Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn creu siaradwyr Cymraeg newydd.

Gwnawn hyn trwy ddatblygu a chefnogi, darparu a hwyluso gofal plant ac addysg gynnar cyfrwng Cymraeg mewn Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd cofrestredig trwy ddefnyddio ac arddel y dull trochi iaith. Yn ogystal, rydym yn darparu a hwyluso gwasanaethau i gefnogi teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg mewn Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a sesiynau ‘Clwb Cwtsh’ gan ddylanwadu ar bolisi ac ymgyrchu o blaid gofal ac addysg Gymraeg.

Egwyddorion Mudiad Meithrin yw:

  • bod caffael yr iaith Gymraeg o fantais i blant. 
    I’r perwyl hwn byddwn yn trefnu cymaint o oriau cyswllt â’r iaith Gymraeg â phosibl, ac yn defnyddio’r Gymraeg yn unig yn ein darpariaethau.
  • y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael mynediad i wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar o fewn cyrraedd hwylus i’w gartref. 
    Byddwn yn ceisio sefydlu darpariaethau addas i gwrdd â’r angen yn lleol a cheisio sicrhau cefnogaeth ychwanegol i blant o gefndiroedd difreintiedig.
  • bod dilyniant i addysg Gymraeg yn hanfodol i bob plentyn sy’n mynychu ein darpariaethau.
    I’r perwyl hwn, rydym yn galw am ddilyniant i addysg Gymraeg o fewn cyrraedd hwylus i gartref pob plentyn.
  • bod chwarae yn sylfaenol i ddatblygiad plant yn gorfforol, yn emosiynol yn ieithyddol, yn gymdeithasol, ac yn ddeallusol. 
    Byddwn yn sicrhau pob cyfle posibl ar gyfer dysgu trwy chwarae.
  • bod plant, waeth beth fo’u hangen, yn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd dda.  
    Byddwn yn croesawu plant ag anghenion ychwanegol i’n darpariaethau.
  • bod y teulu yn sylfaen i ddatblygiad plant.
    Byddwn yn sicrhau pob cyfle i deuluoedd gefnogi profiadau blynyddoedd cynnar eu plant, ac yn cynnig cefnogaeth ieithyddol a chymdeithasol i deuluoedd trwy weithgareddau ein darpariaethau.
  • bod hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant a Deddf Plant 1989 yn holl bwysig.
    I’r perwyl hwn bydd gan blant yr hawl i ddisgwyl i bob oedolyn sydd â chyfrifoldeb drostynt eu hamddiffyn rhag camdriniaeth o bob math.

Mae’r dogfennau strategol isod yn tanlinellu blaenoriaethau polisi y Mudiad am y cyfnod 2015 i 2025:

Strategaeth Adnewyddu ac Ailadeiladu 2020-21

Lawrlwytho

Meithrin Miliwn – ymateb y Mudiad i’r strategaeth iaith Cymraeg 2050

Lawrlwytho

Maniffesto Mudiad Meithrin 2021-2026

Lawrlwytho

Dewiniaith – Gweledigaeth Mudiad Meithrin 2015-2025

Lawrlwytho