Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol
Ydych chi'n rhiant sydd ddim yn siarad Cymraeg? Hoffech chi helpu i lunio dyfodol gwasanaethau Cymraeg i blant a theuluoedd?
Mae Mudiad Meithrin yn chwilio am rieni o amrywiaeth o gefndiroedd i ymuno â'n Fforwm Rhieni Cenedlaethol. Dyma gyfle unigryw i sicrhau bod llais rhieni o bob cymuned yn cael ei glywed a'i werthfawrogi.
Pwy ydym ni'n chwilio amdanynt?
Efallai eich bod chi:
- Wedi siarad Cymraeg yn y gorffennol ond yn defnyddio Saesneg neu iaith arall fel eich prif iaith erbyn hyn.
- Heb gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn ystod eich addysg.
- Yn angerddol am helpu'r genhedlaeth nesaf i gael y cyfle i ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg.
- Yn deall pa mor bwysig yw gofal plant ac addysg i blant a theuluoedd.
Pam ymuno?
- Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol i waith Mudiad Meithrin.
- Sicrhewch fod lleisiau rhieni o bob cefndir yn cael eu cynrychioli.
- Helpwch ni i greu mwy o gyfleoedd i blant a theuluoedd elwa o'r Gymraeg.
Mae eich profiadau a'ch safbwynt chi yn bwysig. Dewch i helpu ni siapio'r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am y swydd ac i wneud cais, gweler y swydd ddisgrifiad isod.
Manylion y Swydd
Cyflog: Tâl o £100 y cyfarfod (gyda chostau rhesymol)
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau.
Rydym yn chwilio am unigolion ar gyfer y fforwm sy’n rhannu rhai o’r nodweddion isod.
- Rhiant i blant/blentyn ifanc
- Ddim yn gallu siarad Cymraeg
- Rydym angen i’r fforwm gael cynrychiolaeth o’r canlynol
- Teuluoedd amrywiol (un rhiant, dau riant, wedi mabwysiadu plant a.y.b.)
- Cefndiroedd ethnig / hil amrywiol
- Rhan o’r gymuned LHDTC+
- Yn magu plentyn / plant sydd ag anableddau neu gydag anabledd eu hunain
- Ddim o anghenraid wedi mynychu un o wasanaethau Mudiad Meithrin.
- Yn cefnogi egwyddorion a nod Mudiad Meithrin
Dyddiadau Pwysig
Dyddiad Cau: 14/09/2026