Lleoliad - Cylch Meithrin Dyffryn Aeron, Cwmpws Ysgol Dyffryn Aeron, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 8AE
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Cyflog: Yn dibynnu ar brofiad.
Oriau: Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:45 – 15:30 - gellid ystyried ceisiadau rhan amser
Lefel 3 Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Mae Cylch Meithrin Dyffryn Aeron wedi ei leoli yn Ysgol Dyffryn Aeron, Rydym yn rhan or cynllun 30 awr a Dechrau’n Deg ac yn darparu gofal Meithrin i blant yr ardal.
Swydd am gyfnod penodol yw hon yn dechrau ar 1af o Fedi 2026 hyd at flwyddyn. Rydym yn croesawi ceisiadau wrth ymgeiswyr fyddai â diddordeb mewn secondiad.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd – Helen Lewis, Ebost – pwyllgorynysyplantfelinfach@gmail.com Rhif ffon – 07977 510 888
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Dyddiad Cau: 14/09/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-15.00 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-15.00 | |
| Dydd Mercher | 9.00-15.00 | |
| Dydd Iau | 9.00-15.00 | |
| Dydd Gwener | 9.00-15.00 |