Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Delyth Evans, Rheolwr Meithrinfeydd Cymru
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: delyth.evans@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: Cymhwyster Lefel 2 - MCC2 £12.41 yr awr; Cymhwyster Lefel 3 - MCC3 £12.61 yr awr
Oriau: 12.5 awr yr wythnos. Llun – Iau 12:00 – 2:30yp; Gwener – 9:00-11:30yb Tymor Ysgol yn Unig
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 13/02/2026