Lleoliad - Ysgol Glanrafon, Lon Bryn Coch, Y Wyddgrug, Fflint, CH7 1PS.
Mae Cylch Meithrin Glanrafon yn chwilio am gymhorthydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y Cylch. Bydd y person yn gweithio ar sail un-i-un gyda plentyn yn y Cylch, i gefnogi y plentyn i gael mynediad at y cwricwlwm a meithrin annibyniaeth o fewn lleoliad y Cylch.
Bydd rhaid ir ymgeisydd fod yn rhugl yn y Gymraeg, neu yn ddysgwr I lefel uchel.
Cyflog: I'w drafod
Oriau: 12.5 awr yr wythnos, bore Dydd Llun i fore Dydd Gwener tan mis Gorffennaf 2026.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu – Rheolwr – Emma O’Neill – post@cylchglanrafon.cymru
Dyddiad Cau: 24/04/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-14.55 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-14.55 | |
| Dydd Mercher | 9.00-14.55 | |
| Dydd Iau | 9.00-14.55 | |
| Dydd Gwener | 9.00-14.55 |