Yn ôl i'r rhestr swyddi

Cynorthwy-ydd Meithrinfa Camau Bach

Ceredigion
Gwybodaeth Gyffredinol

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.

Cyfeiriad: Meithrinfa Camau Bach, Y Ganolfan Inetredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD.

 

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Catrin Jones-Williams, Rheolwr Meithrinfa Camau Bach

Rhif Ffôn: 01970 639639

E-bost: catrin.williams@meithrin.cymru 

 

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru

 

Manylion y Swydd

Cyflog: • L5 – MCC4: £25,954.50 (pro rata) • L3 – MCC3: £25,564.50(pro rata) • L2 – MCC2: £25,174.50 (pro rata) • Di-gymhwyster - MCC1: £24,784.50 (pro rata) (£12.71 yr awr)

Oriau: Oriau amrywiol rhan amser dros 5 diwrnod yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol a gwyliau tymor ysgol (gweler y swydd ddisgrifiad) Cytundeb tymor penodedig hyd Ebrill 4ydd 2027.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.