Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio rywun:
- sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig
- sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach
- sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
- sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad
Gofyniad Iaith: Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu’n ddysgwr sydd â lefel dderbyniol o Gymraeg i gyflwyno’r iaith i blant bach.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: ceri.preston@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Cyflog: £12.21 yr awr
Oriau: Pan fo angen
Gweler swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 12/04/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-14.45 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-14.45 | |
| Dydd Mercher | 9.00-14.45 | |
| Dydd Iau | 9.00-14.45 | |
| Dydd Gwener | 9.00-14.45 |