Lleoliad: Canolfan Waunfawr, Bryn Goleu, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4YY
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar Lefel 3 i ofalu am blant neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3.
Oriau gwaith fydd 3:00yp – 5:30yp yn ystod y tymor ysgol i gefnogi'r Clwb Ôl Ysgol. Efallai y bydd cyfle i weithio oriau ychwanegol yn y Cylch Meithrin yn ôl yr angen a gofynion y gwasanaeth.
Y swydd i ddechrau mis Medi.
Cyflog: £12.71 (Lefel 2), £13.00 (Lefel 3)
Oriau: Llun-Gwener, 12.5 awr yr wythnos, 3.00-5.30 o'r gloch
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar Lefel 3 i ofalu am blant neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth:
Lesley Rowlands (Unigolyn Cyfrifol) – pwyllgorcylchwaunfawr@gmail.com 07359 216139
Dyddiad Cau: 17/07/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 8.30-15.00 | |
| Dydd Mawrth | 8.30-15.00 | |
| Dydd Mercher | 8.30-15.00 | |
| Dydd Iau | 8.30-13.00 | |
| Dydd Gwener | 8.30-13.00 |