Lleoliad: Festri Capel Bethel, Maes y Deri, Rhiwbeina, Caerdydd
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 – 3 yn ddelfrydol i ofalu am blant.
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn lleoliad cynnes, croesawgar a phrysur lle mae plant yn dysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig, gofalgar a chreadigol i ymuno â’n tîm a helpu i greu profiadau dysgu hapus ac ystyrlon i’n plant. Os ydych chi’n angerddol am y Gymraeg, datblygiad plant a gweithio fel rhan o dîm gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog: I'w drafod
Oriau: I'w drafod - (rhwng 8-30 awr yr wythnos)
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar lefel 2/3 neu uwch.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Angharad Phelps-Jowers cylchmeithrinrhiwbeina@gmail.com
Dyddiad Cau: 20/11/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-12.30 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-12.30 | |
| Dydd Mercher | 9.00-12.30 | |
| Dydd Iau | 9.00-12.30 | |
| Dydd Gwener | 9.00-12.30 |