Lleoliad: Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon, LL55 4AL
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Bydd y cynorthwyydd yn gyfrifol am redeg y sesiwn ‘ti a fi’ lleol am ddwy awr ar Ddydd Gwener, gyda gweddill yr oriau yn cael eu gwneud fel cynorthwyydd yn y Cylch Meithrin.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog: £12.71 yr awr
Oriau: 10 awr yr wythnos
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Enw: Nia Pierce
Swydd: Cadeirydd Pwyllgor
Dyddiad Cau: 27/10/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.15-15.10 | |
| Dydd Mawrth | 9.15-15.10 | |
| Dydd Mercher | 9.15-15.10 | |
| Dydd Iau | 9.15-15.10 | |
| Dydd Gwener | 9.15-15.10 |