Lleoliad - Cylch Meithrin Llyn y Forwyn, Ysgol Gymraeg Llyn y Forwyn, Stad Ddiwydiannol Maerdy, Ffordd Maerdy, Glynrhedyn, CF43 4AB
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd staff banc ddibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Os yn berthnasol gallwch chi gofrestru ar gwrs Camau a gwneud cynnydd rheolaidd ar y cwrs.
Cyflog: £12.71
Oriau: Hyblyg / Yn ol yr angen
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu – Pwyllgor Cylch Meithrin Llyn y Forwyn – pwyllgorllynyforwyn@gmail.com
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Dyddiad Cau: 18/09/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-15.30 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-15.30 | |
| Dydd Mercher | 9.00-15.30 | |
| Dydd Iau | 9.00-12.00 | |
| Dydd Gwener | 9.00-12.00 |