Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Delyth Evans, Rheolwr Meithrinfeydd Cymru
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: delyth.evans@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MCC1; £12.71 yr awr / £24,784.50pro rata
Oriau: Rhan-amser, 10 awr (5 awr Dydd Llun a 5 awr Dydd Mawrth) rhwng 7:30yb a 18:00yh (amser yn hyblyg)
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 14/05/2026