Rheolwr Talaith y De Orllewin
Castell Nedd Port Talbot, Ceredigion, Penybont ar Ogwr, Powys, Sir Benfro, Sir GârGweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: leanne.marsh@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM33 - MM42: £41,471.80- £51,710.71 (Polisi Mudiad Meithrin yw cynnig y swydd ar ricyn cyntaf y band MM).
Oriau: Llawn amser – 37.5 awr yr wythnos
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 08/06/2026
Dyddiad Cyfweliad: 18/06/2026