Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Yn ôl i'r rhestr swyddi

Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro (Cyfnod Mamolaeth)

Sir Benfro, Sir Gâr
Gwybodaeth Gyffredinol

Ydych chi’n angerddol dros y Gymraeg ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn?

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, ysbrydoledig ac ymroddedig i ymuno â darpariaethau Mudiad Meithrin er mwyn arwain ar ymestyn a datblygu sgiliau ieithyddol staff a phlant. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant iaith o safon, cynnig mentora cefnogol, ac arwain ar weithredu cynllun Croesi’r Bont – rhaglen drochi iaith arloesol ar gyfer Cylchoedd Meithrin.

Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu’n uniongyrchol at gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau ac i gefnogi cenhedlaeth newydd o siaradwyr hyderus.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n:

  • Frwd dros hyrwyddo’r Gymraeg a’i datblygiad

  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ar wahanol lefelau

  • Yn gallu ysbrydoli, cefnogi ac arwain eraill

  • Yn gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm

Os ydych yn barod i gymryd cam nesaf cyffrous yn eich gyrfa ac i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar, hoffem glywed gennych.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Lou Stevens Jones, Rheolwr Croesi'r Bont

Rhif Ffôn: 07966 313609

E-bost: lou.stevens.jones@meithrin.cymru

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Dychwelwch y ffurflenni yma:

Manylion y Swydd

Cyflog: MM15 – MM20: £24,200 – £27,835.

Oriau: 37.5 awr yr wythnos

Manylion cymwysterau

Gweler swydd ddisgrifiad

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 27/02/2026

Dyddiad Cyfweliad: 06/03/2026