Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin gyda ffocws arbennig ar greu cynnwys a datblygu platfformau cyfryngau cymdeithasol y Mudiad.
Bydd y person mewn golwg yn cefnogi'r gwaith o gynllunio, creu a chyflwyno cynnwys deniadol ar draws ein platfformau digidol. Mae'r rôl hon yn ddelfrydol i rywun sydd am ddatblygu gyrfa ym maes marchnata ac ennill profiad ymarferol o reoli cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, marchnata digidol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Gweler y swydd ddisgrifiad am ragor o wybodaeth am y swydd.
Lleoliad: Aberystwyth, Ceredigion
Mae croeso i chi gysylltu a Medi Jones-Jackson, Rheolwr Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau i drefnu sgwrs anffurfiol am y swydd – medi@meithrin.cymru
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM15–MM20 £25,175 - £28,531
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 12/10/2026
Dyddiad Cyfweliad: 15/10/2026