Yn ôl i'r rhestr swyddi

Tiwtor Asesydd Cynllun Ysgolion Cam Wrth Gam Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac Ysgol Gyfun Gwynllyw (Cyfnod Mamolaeth)

Caerffili, Torfaen
Gwybodaeth Gyffredinol

Ydych chi’n frwdfrydig am addysgu plant a chwarae rôl allweddol yn eu datblygiad? Rydym yn chwilio am berson cymwys i ddysgu ac asesu cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - GChDDP  TGAU a Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori - GChDDP.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, ymgeisiwch heddiw!

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol, neu

Amy Sefton, Prif Swyddog Cynllun Cam Wrth Gam De Ddwyrain

Rhif Ffôn: 07791 519144 / 07977 641517

E-bosteunice.jones@meithrin.cymru / amy.sefton@meithrin.cymru

Manylion y Swydd

Cyflog: MM18 – MM22 - £26,269 – £29,610 pro rata. Bydd cynnydd i werth bandiau cyflog hyn o 1.4.2026, ond nid yw’r wybodaeth yma wedi’i gyhoeddi eto. Gwir gyflog ar sail gweithio 30 awr yr wythnos £21,015 - £23,688.

Oriau: 30 awr yr wythnos

Manylion cymwysterau

Gweler swydd ddisgrifiad

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 04/03/2026