Tiwtor/Asesydd Cynllun Ysgolion Dan Hyfforddiant Ysgolion Cwm Gwendraeth, Bro Teifi a Bro Preseli
Ceredigion, Sir Benfro, Sir GârBydd y dysgu yn digwydd yn ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eunice Jones - Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: eunice.jones@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM17 £26,225 y flwyddyn (pro rata).
Oriau: 30 awr yr wythnos. Cytundeb cyfnod penodol o 01/09/26 i 31/08/27
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 07/06/2026