Cwrs hunan-astudio, ar-lein ar lefel Sylfaen

Mae’r cwrs hon yn addas os ydych am ehangu eich Cymraeg a hefyd os ydych chi’n gallu:

  • Deall a defnyddio ymadroddion bob dydd, syml, ar yr amod bod y person arall yn fodlon siarad yn araf, ailadrodd neu aralleirio pethau.
  • Gofyn ac ateb cwestiynau am wybodaeth sylfaenol, e.e. y tywydd, teimladau a dymuniadau, hoff a chas bethau, caniatâd, rhifau, lle mae pethau (e.e., teganau), lliwiau a siapiau, yr amser, pethau sy wedi digwydd yn y gorffennol, pethau fydd yn digwydd yn y dyfodol, pethau rhaid eu gwneud;
  • Rhoi rhai gorchmynion syml, uniongyrchol sy’n berthnasol i leoliadau gofal plant.

I gofrestru i dderbyn linc i ddechrau ar y cwrs llenwch y ffurflen hon https://forms.office.com/e/Qz6iHinzjg

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â camau@meithrin.cymru

Deilliannau Dysgu Sylfaen

Lawrlwytho