Mae nifer o feithrinfeydd dydd sy’n cynnig gwasanaeth gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg yn ymaelodi gyda’r Mudiad. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fusnesau preifat sy’n dilyn polisau’r Mudiad.
Fel Mudiad mae gennym 3 meithrinfa ddydd ein hunan hefyd, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli gan is-gwmni’r Mudiad o’r enw Meithrinfeydd Cymru Cyf. Nod Meithrinfeydd Cymru yw darparu gofal dydd llawn ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gwasanaeth ar gael i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol.
Mae’r tair feithrinfa yn darparu bwyd cynnes a maethlon i’r plant ac yn derbyn talebau gofal plant amrywiol gan gynnwys cynllun ariannu Gofal Plant Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am feithrinfeydd dydd y Mudiad cliciwch ar feithrinfa o’ch dewis.