Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi fod Sianel YouTube Dewin a Doti wedi rhyddhau ei 100fed fideo – carreg filltir arwyddocaol i’r tîm ar ôl blwyddyn lwyddiannus o ddarlledu cynnwys creadigol ac addysgol i blant bach a’u teuluoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Gyda diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant o bron i £497,000, mae Sianel Youtube Dewin a Doti (Dewin a Doti – YouTube) wedi gallu datblygu cynnwys sy’n hyrwyddo cynhwysiant, creadigrwydd, a dysgu trwy hwyl. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r sianel wedi denu dros 1,200 o danysgrifwyr ac wedi cyrraedd cyfanswm anhygoel o 102,000 ‘view’ i’r fideos fel cyfanswm ers lansio’r sianel fis Mawrth llynedd.
Meddai Fflur Dafydd, Arweinydd Prosiect Sianel Dewin a Doti:
“Mae cyhoeddi’r 100fed fideo yn garreg filltir arbennig inni, ac mae’r 100fed fideo yn arbennig o bwysig gan mai dyma’r fideo gyntaf inni ei chyhoeddi sy’n cynnwys Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL). Trwy gydweithio gyda Wales Council for Deaf People, bu’n bosib inni sicrhau fod y cynnwys yn addas i’r gymuned fyddar gan gyd-fynd â nod Mudiad Meithrin o sicrhau bod pob plentyn, o bob cefndir a gallu, yn cael yr un cyfle i fwynhau ac elwa ar gynnwys y sianel.”
Mae’r fideo “Stori Ar Wib” yn cael ei harwyddo gan Claire Sanders gan defnyddio BSL, gyda throslais gan y canwr a’r actor poblogaidd Yws Gwynedd. Stori Ar Wib – Iaith Arwyddo Prydeinig.
Dywedodd Hafwen Bilenki, Dehonglydd Iaith Arwyddion Cofrestredig:
“Mae darparu mynediad i blant byddar at gynnwys Cymraeg mewn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) yn eu galluogi i fwynhau’r un pethau â’u brodyr, chwiorydd a ffrindiau. Mae hyn yn annog ymdeimlad o berthyn ac yn lleihau rhwystrau cyfathrebu, sydd yn eu galluogi i gyfrannu ac ymgysylltu gyda’r iaith Gymraeg. Mae hyn nid yn unig yn cyfoethogi eu profiadau diwylliannol ac yn cefnogi eu datblygiad ieithyddol a’u lles cyffredinol, ond hefyd yn croesawu dwyieithrwydd ac yn dathlu amrywiaeth ieithyddol yng Nghymru ar gyfer plant byddar yn ogystal â phlant sy’n clywed.”
Mae tîm y sianel wedi ymrwymo i barhau i greu cynnwys amrywiol a chyfoethog ar gyfer teuluoedd ledled Cymru a thu hwnt. Bydd sianel Dewin a Doti yn parhau i ddatblygu i gyrraedd hyd yn oed mwy o gynulleidfaoedd dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o’r prosiect.
Mae’r sianel yn cynnwys amrywiaeth o gynnwys i blant bach trwy gyfrwng y Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg er mwyn helpu rhieni di-Gymraeg i ddysgu’r iaith gyda’u plant, sy’n cynnwys fideos Amser Canu, Hwyl gyda Dewin a Doti, Amser Dysgu, Ioga gyda Dewin a Doti, a llawer mwy ar sianel Dewin a Doti – YouTube.