Fel cynifer yn y sector Blynyddoedd Cynnar, rydw i’n fenyw wen sydd erioed wedi profi hiliaeth ar sail lliw fy nghroen neu fy hil. Er hyn, rwyf wedi bod yn effro i glywed am ragfarn yn erbyn pobl ar sail cenedligrwydd ac ethnigrwydd gan fod gen i hunaniaeth Pwylaidd.

Beth mae gwrth-hiliaeth yn ei olygu i mi felly?

Mae gwrth-hiliaeth yn symud y tu hwnt i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a ‘peidio â bod yn hiliol’ i fynd ati i wrthwynebu hiliaeth a chodi llais dros newid personol, sefydliadol a systemig. Er mwyn gallu gwrthwynebu hiliaeth a mynd ati i hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol, mae angen i arweinwyr ac ymarferwyr yn ein lleoliadau gofal plant gael dealltwriaeth o bob math o hiliaeth.

Ein cyfrifoldeb ni i gyd yn y gweithlu yw rhannu’r cyfrifoldeb hwnnw a byw ac ymarfer arweinyddiaeth wrth-hiliol. Ym mhob un o’n sefydliadau / lleoliadau gofal plant, chwarae a dysgu blynyddoedd cynnar ledled Cymru, mae pob un ohonom yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o arwain gweledigaeth y genedl a’r cynllun gweithredu i wireddu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Oherwydd hynny, mae pecyn cymorth arbennig wedi ei greu i gefnogi pobl i ddatblygu ‘diwylliant’ gwrth-hiliol, sy’n codi cwestiynau ar unwaith ynglŷn â beth yw diwylliant?

I mi, mae diwylliant yn bopeth – o’r arweinyddiaeth i’r amgylchedd, o’r perthnasau gyda theuluoedd i’r ymarfer. Mae datblygu dull gwrth-hiliol yn cymryd amser, myfyrio ac ymrwymiad. Gall deimlo’n llethol.

Nid bwriad y pecyn cymorth yw cael ei ddefnyddio fel rhestr wirio nac ymarfer ticio blychau. Yn hytrach, dylid ei ddefnyddio i helpu, arwain a chefnogi datblygiad lleoliad cyfan i fod yn sefydliad gwrth-hiliol.

Rydym wedi categoreiddio’r cyngor fel a ganlyn:

  • Llywodraethu ac Arweinyddiaeth
  • Gosod y llawr / amgylchedd
  • Rhieni a Gofalwyr
  • Dysgu Proffesiynol
  • Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar; cwricwlwm, addysgeg ac ymarfer

Mae’r pecyn cymorth hefyd yn cynnwys astudiaethau achos o’r sector fel Cylch Meithrin Llanbedr, Gwynedd.

Mae Cylch Meithrin Llanbedr yn elusen sy’n cael ei rhedeg yn wirfoddol ac yn darparu addysg feithrin a gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae’r lleoliad wedi’i leoli mewn neuadd gymunedol gydag ardal awyr agored fawr mewn pentref bach gwledig lle mae tua  hanner y boblogaeth leol yn siarad Cymraeg. Mae 97% o’r gymuned leol yn wyn o ran hil. Mae pob aelod staff wedi mynychu dysgu proffesiynol gwrth-hiliol ac wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r adnoddau a ddefnyddir yn y Cylch.

Mae hyn yn golygu bod y plant yn chwarae gyda doliau Du a Brown; mae’r plant yn defnyddio creonau ‘Lliwiau’r Byd’ wrth dynnu lluniau, ac mae’r arddangosfeydd yn cynnwys plant o wahanol gefndiroedd hil ac ethnig.

Mae’r hysbysfwrdd i rieni’n arddangos deunyddiau ‘Cylch i Bawb’ ac mi oedd arweinydd y Cylch Meithrin ar y pryd – Jacqueline Hooban – yn cyflwyno dysgu proffesiynol gwrth-hiliol ar ran CWLWM yn Gymraeg.

Dim ond y dechrau yw hyn.

Mae gwrth-hiliaeth yn waith caled sy’n dod o’r galon.

Bydd angen i ni i gyd fod yn rhan o’r newid, a sicrhau bod pawb yn teimlo eu cynefin eu hunain – eu lle personol o berthyn yng Nghymru a’r byd.

Cyhoeddwyd gan Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin

Chwefror 2025

CREU DIWYLLIANT GWRTH-HILIOL MEWN LLEOLIADAU – Pecyn Cymorth Ymarferol ir rheini sy’n gweithio ym maes gofal plant, y blynyddoedd cynnar a chwarae yng Nghymru. – DARPL