Ymateb Mudiad Meithrin i adroddiad Senedd Cymru
Dros y flwyddyn diwethaf, bu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru yn cynnal ymchwiliad er mwyn darganfod a yw plant a phobl ifanc yn derbyn mynediad cyfartal at addysg a gofal plant. Mae’n gwestiwn anferth, ac fel rhan o’u hymchwiliad bu’r Pwyllgor yn gwahodd sylwadau gan rieni, gofalwyr, ymarferwyr, athrawon a mudiadau er mwyn deall a yw plant yn cael y tegwch sydd wedi ei addo mewn cyfraith iddynt sef Deddf Cydraddoldeb 2010.
Ar 16eg o Orffennaf, cyhoeddwyd adroddiad interim Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru ac mae Mudiad Meithrin yn llongyfarch y Pwyllgor ar eu hymchwiliad trylwyr sydd wedi arwain at 32 o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd yr adroddiad hwn, yn enwedig os gweithredir yr argymhellion pellgyrhaeddol, fel y dyweda Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei rhagair i’r adroddiad: ‘Credaf fod yr adroddiad hwn yn foment bwysig i lunwyr polisïau gydnabod hyn, a dechrau gwneud y newidiadau i ddarparu gofal plant ac addysg sy’n fwy cynhwysol.’ Buffy Williams AS, Rhagair y Cadeirydd yn yr adroddiad.
Cytuna Mudiad Meithrin â chanfyddiadau’r pwyllgor bod y sefyllfa bresennol yn ddifrifol – bu clywed am brofiad byw plant a’u rhieni/gofalwyr yn ystod yr ymchwiliad yn ysgytwol ar adegau gan ddangos effaith yr annhegwch sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Os gweithredir yr argymhellion, mae cyfle gwirioneddol i drawsnewid y sefyllfa fel bod gofal plant ac addysg yn fwy cynhwysol. Mae Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd yn barod i chwarae rhan lawn i sicrhau fod yr argymhellion yn dod yn realiti ac yn cael effaith pellgyrhaeddol ar fywydau plant anabl a’u teuluoedd.
O edrych ar yr argymhellion yn fwy manwl, cytunwn fod casglu gwell data am y bylchau yn y ddarpariaeth a’r rhesymau pam bod plant yn symud o un ddarpariaeth i’r llall yn hanfodol er mwyn adolygu a gwella gwasanaethau. Byddem yn ychwanegu bod adnabod bylchau o ran llefydd cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth hefyd, fel bod plant ag anghenion ychwanegol yn cael yr un hawl i ofal ac addysg Gymraeg (diolch Ciaran Fitzgerald am amlygu’r frwydr mae plant anabl a niwrowahanol a’u rhieni/gofalwyr yn eu wynebu i gael gael mynediad i addysg Gymraeg mewn rhaglen arbennig ar S4C ar Fehefin 5ed:
Y Gymraeg: Hawl Pob Plentyn (s4c.cymru)
Nododd Mudiad Meithrin ein tystiolaeth i’r ymchwiliad bod anghysondeb mewn cefnogaeth a systemau ar draws Cymru yn cael effaith uniongyrchol ar y ddarpariaeth ar lawr gwlad, felly cytunwn â’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod angen i Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol gydweithio a chefnogi ei gilydd i ddarparu gofal plant cynaliadwy a chynhwysol ym mhob rhan o Gymru.
Mae gormod o blant yn cael eu heithrio o ofal plant ac addysg oherwydd systemau ariannu dyrys a chwtogi ariannol gan awdurdodau lleol. Y broblem yma yw bod y Cynnig Gofal Plant yn cael ei gynnig ar sail cymhwysedd y rhieni/gofalwyr, nid y plentyn. Bydd hyn yr eithrio plant anabl rhag cael mynediad teg i ofal plant ac addysg, pan o bosib mai cyfleoedd chwarae a rhyngweithio â phobl a phlant yw un o’r ymyraethau fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’r plentyn hwnnw, yn ogystal â gwella cefnogaeth i deuluoedd y plant.
Croesawn yr argymhelliad am well canllawiau ar gyfer lleoliadau gofal plant a’r disgwyliadau sydd arnynt o dan y Cod ADY gan ddarparu enghreifftiau ar draws Cymru er mwyn sicrhau cysondeb ac eglurder.
Rydym hefyd yn croesawu’r argymhelliad i ddatblygu pecyn hyfforddiant ac adnoddau er mwyn uwchsgilio’r gweithlu i ddeall sut i gefnogi plant ag amrywiol gyflyrau a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall pob plentyn ffynnu.
Mae’n frawychus bod darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg yn dal i fod yn loteri cod post a bod rhieni o hyd yn clywed gan unigolion proffesiynol y byddai addysg cyfrwng Saesneg yn fwy addas i’w plentyn. Mae hyn yn sylfaenol anghyfiawn ac yn agwedd sydd angen ei weddnewid drwy ymyrraeth strategol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r blynyddoedd cynnar ac ar hyd eu taith addysg.
A hithau’n dymor gwyliau, gwyddom bod llawer o deuluoedd yn wynebu heriau di-ri oherwydd nad oes opsiynau gofal plant ar gael iddynt, a chlywsom gan rieni am effaith y diffyg darpariaeth ar eu hiechyd meddwl. Galwn ar Lywodraeth Cymru weithredu argymhellion yr adroddiad ar fyrder – argymhellion mae Mudiad Meithrin yn barod i gydweithio i’w gwireddu – a thrwy hynny sicrhau hawliau a thegwch i blant anabl.